NEWYDDION
Cyhoeddi adroddiad i Amgueddfa Cymru
Ionawr 4 2022
Mae adroddiad gan Arad ar gyfer Amgueddfa Cymru yn dadansoddi’r ymatebion a dderbyniwyd i ‘Holiadur casglu drwy Covid Cymru 2020’ wedi cael ei gyhoeddi. Bwriad yr arolwg oedd casglu straeon personol ar draws y wlad i greu darlun cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod clo cyntaf a thu hwnt. Roedd y cwestiynau yn cyffwrdd â’r themâu canlynol:
- bywyd bob dydd
- iechyd a lles
- llywodraeth a gwybodaeth
- y dyfodol
Mae’r adroddiad yn cyflwyno’r themâu gafodd eu hadnabod o fewn yr ymatebion i bob cwestiwn, ynghyd â dyfyniadau gan ymatebwyr unigol.
Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.