NEWYDDION

Cyhoeddi adroddiad ar y Gymraeg a’r economi

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad sydd yn adolygu’r dystiolaeth am y berthynas rhwng y Gymraeg, ac ieithoedd eraill sydd yn berthnasol i sefyllfa ieithyddol Cymru, a’r economi.

Mae’r adroddiad yn adnabod meysydd ymchwil y gellid eu harchwilio a’u datblygu ymhellach. Yn ogystal ag archwilio’r dystiolaeth mewn perthynas â’r Gymraeg, mae’r adolygiad yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ynghylch ieithoedd y bernir eu bod yn rhannu nodweddion tebyg gyda’r Gymraeg, o ran eu cyd-destun sosioieithyddol.