NEWYDDION

Cyhoeddi adroddiad Arad ar baratoadau ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad ar baratoadau ar gyfer gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 yn archwilio paratoadau ymarferwyr ysgolion ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn wedi’u seilio ar arolwg ymhlith yr holl ysgolion a’r unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru, a ddosbarthwyd drwy nifer o sianeli. Cafwyd dros 600 o ymatebion i’r arolwg.

Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.