NEWYDDION

Cyhoeddi adroddiad Arad ar Dechrau’n Deg

Mae adroddiad gan Arad ar raglen Dechrau’n Deg wedi’i chyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.  Ymchwil ansoddol gyda theuluoedd Dechrau’n Deg: Adroddiad Cam 1 yw’r adroddiad cyntaf o brosiect ymchwil ansoddol tair blynedd gyda rhieni sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg.

Nod yr ymchwil yw archwilio profiadau ac effeithiau canfyddedig i deuluoedd trwy gydol eu hymwneud a’r rhaglen. Gan dynnu ar y flwyddyn gyntaf o waith maes, mae’r adroddiad hwn yn disgrifio barn y rhieni am eu hymgysylltiad, profiadau ac effeithiau canfyddedig y rhaglen hyd yn hyn.

Mae’r adroddiad ar gael o wefan Llywodraeth Cymru.