NEWYDDION
Cyhoeddi adroddiad Cwpan y Byd Arad
Gorffennaf 11 2023
Mae adroddiad gan Arad yn gwerthuso gweithgareddau Cwpan y Byd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru wedi ei gyhoeddi.
Roedd gweithgareddau Cwpan y Byd a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys:
- Y Gronfa Cefnogi Partneriaid a ariannodd 19 o sefydliadau diwylliant, chwaraeon ac addysg i gynnal gweithgareddau i ddathlu’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd.
- Ymgyrch farchnata estynedig, a oedd yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol ym meysydd busnes a thwristiaeth
- Lleisiau Cymru: Llysgenhadon Cwpan y Byd – menter newydd yn cynnwys grŵp o bedwar unigolyn a weithiodd i godi proffil Cymru yn rhyngwladol ac i helpu i greu canfyddiadau cadarnhaol hirdymor a meithrin perthnasoedd cryf â phartneriaid allweddol
- Digwyddiadau rhyngwladol a drefnwyd gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru, yn arbennig yn Qatar ac UDA.
Mae’r adroddiad ar gael fan hyn