NEWYDDION
Cyhoeddi adroddiad gwmpasu gwerthusiad Cwricwlwm i Gymru
Gorffennaf 13 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad gan Arad, mewn cydweithrediad â’r Brifysgol Agored a’r Athro Claire Sinnema o Brifysgol Auckland, yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r theori, y tybiaethau a’r dystiolaeth sy’n sail i’r diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu ac yn nodi argymhellion ar gyfer rhaglen fonitro a gwerthuso gadarn.
Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.