NEWYDDION

Cyhoeddi astudiaeth gwmpasu dysgu proffesiynol ôl-16

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad diweddar gan gwmni ymchwil ICF, mewn partneriaeth ag Arad. Archwiliodd yr ymchwil ddatblygiad posibl fframwaith dysgu proffesiynol i’r sector addysg ôl 16. Mae’n cynnwys casgliadau yn seiliedig ar dystiolaeth a blaenoriaethau strategol. Mae’r adroddiad ar gael fan hyn. https://llyw.cymru/astudiaeth-gwmpasu-dysgu-proffesiynol-ol-16-adroddiad-terfynol