NEWYDDION
Cyhoeddi gwerthusiad o Dyfodol Byd-eang
Ebrill 28 2022
Mae adroddiad gan Arad yn gwerthuso rhaglen Dyfodol Byd-eang wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Dyfodol Byd-eang yw cynllun Llywodraeth Cymru i gynorthwyo’r holl ddysgwyr i fod yn ddinasyddion byd-eang, sy’n gallu siarad gyda phobl mewn ieithoedd eraill, gan werthfawrogi eu diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill ac sy’n gallu manteisio ar ystod eang o gyfleoedd yma yng Nghymru ac ar draws y byd
Prif nodau’r gwerthusiad oedd:
- amcangyfrif y ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol ar hyn o bryd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru
- cyfuno’r dystiolaeth o Dyfodol Byd-eang 2015 i 2020 a’r effaith ar ysgolion, gan ddarparu cyd-destun ar gyfer gwerthuso strategaeth 2020 i 2022
- nodi sut y gall Dyfodol Byd-eang 2020 i 2022 addasu a chyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru
- amlinellu’r camau nesaf ar gyfer Dyfodol Byd-eang
Mae’r adroddiad ar gael fan hyn