NEWYDDION
Gwerthusiad o Mwy na geiriau: cyhoeddi’r adroddiad terfynol
Mae adroddiad terfynol gan Arad fel rhan o werthusiad ‘Mwy na geiriau’ – y fframwaith strategol olynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol – wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Mae’r adroddiad ar gael fan hyn.
Mae’r ddroddiad yn asesu i ba raddau, a sut, y mae Mwy na geiriau wedi hyrwyddo a chefnogi defnydd o’r Gymraeg ar draws y sector iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau ar y cynnydd tuag at bob un o saith amcan allweddol y fframwaith olynol ac hefyd yn ystyried yr hwyluswyr a’r rhwystrau i weithredu. Mae’r adroddiad yn gwneud cyfres o argymhellion ynglyn â rôl ‘Mwy na geiriau’ yn y dyfodol a sut i fynd i’r afael â’r bylchau o ran cyflawni a’r rhwystrau gweithredu.