CWRDD Â’R TÎM

Brett Duggan

Mae Brett yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr Arad. Yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, mae wedi arwain gwerthusiadau a phrosiectau ymchwil ar ran adrannau o’r llywodraeth, sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol. Mae wedi gweithio ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys addysg a sgiliau, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, adfywio cymunedol a pholisi ym maes plant a phobl ifanc.

Yn 2018 fe gwblhaodd werthusiad ffurfiannol o’r Model Ysgolion Arloesi ar ran Adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru. Roedd hwn yn brosiect ymchwil ddwy-flynedd, gan gynnwys ymchwil ddwys gydag ysgolion a rhanddeiliaid ledled Cymru i archwilio’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Yn ddiweddar mae hefyd wedi cwblhau gwerthusiad o Raglen Arweinyddiaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar ran Teach First; ac astudiaeth i sefydlu gwaelodlin o’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru.    Ar hyn y bryd mae’n arwain gwerthusiad o’r Siarter Iaith, rhaglen sy’n cefnogi defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg plant. Mae hefyd yn gwerthuso Rhaglen Graddedigion Cymru Gyfan ar ran Academi Wales, rhaglen sydd yn datblygu arweinwyr y dyfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cyn ei amser yn Arad, bu’n gweithio i ymgynghoriaeth ymchwil Newidiem ac fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol.  Mae Brett yn siarad Cymraeg a Ffrangeg ac yn byw ym Mhontypridd.