CWRDD Â’R TÎM
Hefin Thomas
Mae Hefin yn Gyfarwyddwr ac yn un o sefydlwyr Arad. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Hefin wedi dylunio a rheoli ymchwil a gwerthusiadau ar gyfer cleientiaid gan gynnwys adrannau llywodraethol, awdurdodau lleol, sefydliadau preifat a thrydydd sector. Mae ei brif feysydd arbenigedd yn cynnwys addysg, sgiliau a hyfforddiant, yr iaith Gymraeg, proffilio marchnad lafur a dadansoddi economaidd.
Yn ddiweddar mae Hefin wedi rheoli ymchwil ansoddol dros dair blynedd i Lywodraeth Cymru yn astudio barn rhieni ar wasanaeth blynyddoedd cynnar, yn ogystal â chwblhau ymchwil ar ddulliau o brofi sgiliau llythrennedd a rhifedd ymgeiswyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ac asesiad o werth economaidd Urdd Gobaith Cymru.
Mae Hefin yn rhugl yn y Gymraeg. Graddiodd Hefin o Ysgol Economeg Llundain yn 2001 a dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol.