CWRDD Â’R TÎM
Jennifer Lane
Ymunodd Jennifer ag Arad fel ymchwilydd yn 2013. Mae gan Jennifer ddiddordeb ym meysydd ymchwil plant a theuluoedd, addysg, hyfforddiant a sgiliau. Gyda BSc mewn Seicoleg a MSc mewn Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg, mae gan Jennifer brofiad o gynnal ymchwil desg, cyfweliadau, dylunio offer ymchwil a dadansoddi data ar gyfer prosiectau ymchwil ansoddol a meintiol.
Mae profiad prosiectau ymchwil Jennifer yn cynnwys ymchwil ansoddol gyda theuluoedd sy’n derbyn cymorth trwy raglen Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru, gwerthusiad o Gronfa Buddsoddi Sgiliau ‘Creative Skillset’ a gwerthusiad o Raglen Cymru Gyfan ar gyfer Graddedigion Gwasanaeth Cyhoeddus Academi Wales. Mae Jennifer hefyd wedi gweithio ar werthusiad ffurfiannol o Wasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser Macmillan ledled Cymru, ymchwilio i anghenion a chanlyniad plant ifanc yng Nghymru (ar ran Achub y Plant) ac ymchwilio i werth prentisiaethau i Gymru (ar ran Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru).
Cyn ymuno ag Arad, gweithiodd Jennifer i Rwydwaith Ymchwil Cymdeithasau Proffesiynol (PARN), gan ddarparu cymorth ymchwil ar gyfer nifer o brosiectau sy’n ymwneud â’r sector corff proffesiynol.