CWRDD Â’R TÎM

Sioned Lewis

Mae Sioned yn Gyfarwyddwr ac yn gyd-sylfaenydd Ymchwil Arad sydd wedi arwain ystod o brosiectau ymchwil a gwerthuso dros y pymtheng mlynedd diwethaf. Mae hi’n rheolwr prosiect profiadol, yn fedrus mewn arwain prosiectau ymchwil o’r dechreuad hyd at ei wasgariad ar gyfer ystod o gleientiaid gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol a sefydliadau trydydd sector. Cynhwysir themâu ymchwil megis gofal plant ac addysg gynnar, cyflogaeth a sgiliau a pholisi iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae Sioned yn arwain prosiectau Arad sy’n ymwneud â gofal plant ac addysg gynnar. Rheolodd y gwerthusiad o Weithrediad Cynnar y Cynnig Gofal Plant i Gymru, sef gwerthusiad dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o rieni a darparwyr. Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn rheoli’r gwerthusiad o hyfforddiant ‘Cynnydd ar gyfer Llwyddiant’ a ariennir gan ESF ar gyfer gweithwyr gofal plant. Mae astudiaethau cyflogadwyedd a sgiliau diweddar yn cynnwys yr adolygiad o Raglen Beilot Sgiliau Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a gwerthusiad o brosiect Oxfam sy’n ffocysu ar Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru.

Cyn hynny, roedd Sioned yn ymchwilydd mewn ymgynghoriaeth annibynnol ac yn ymchwilydd yn Llywodraeth Cymru. Yn raddedig mewn daearyddiaeth, mae ganddi hefyd radd meistr mewn datblygiad rhanbarthol gyda dulliau ymchwil.