CWRDD Â’R TÎM

Stuart Harries

Mae Stuart yn gyfarwyddwr ac yn un o’r aelodau a sefydlodd Arad. Mae gan Stuart dros ddau ddegawd o brofiad ymchwil ac ymgynghoriaeth. Mae ganddo radd mewn economeg ac y mae ei brif ddiddordebau ymchwil mewn addysg, sgiliau a datblygu’r gweithlu. Mae gan Stuart hanes o lwyddiant wrth arwain gwerthusiadau ac astudiaethau ymchwil ar gyfer cleientiaid yn amrywio o fudiadau elusennol i lywodraeth lleol a chenedlaethol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Stuart yn gyfathrebwr ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn hwylusydd profiadol o gynadleddau, seminarau a grwpiau ffocws.

Yn ddiweddar, mae Stuart wedi bod yn arwain ar werthusiad o’r Cynnig Gofal Plant ac mae wedi gweithio ar werthusiadau o raglenni cyflogadwyedd megis y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a Gwasanaeth Di-waith Cymru Iach ar Waith ar ran Llywodraeth Cymru. Mae wedi rheoli ymchwil a gwerthuso yn y sector addysg, megis gwerthusiad o STEM Cymru 2 ar ran Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.