Brett Duggan

Brett Duggan
Mae Brett yn gyd-sylfaenydd ac yn gyfarwyddwr Arad. Yn ystod y 14 mlynedd diwethaf, mae wedi arwain gwerthusiadau a phrosiectau ymchwil ar ran adrannau o’r llywodraeth, sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol. Mae wedi gweithio ar draws ystod o feysydd polisi, gan gynnwys addysg a sgiliau, y celfyddydau, yr iaith Gymraeg, adfywio cymunedol a pholisi ym maes plant a phobl ifanc.
Yn 2018 fe gwblhaodd werthusiad ffurfiannol o’r Model Ysgolion Arloesi ar ran Adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru. Roedd hwn yn brosiect ymchwil ddwy-flynedd, gan gynnwys ymchwil ddwys gydag ysgolion a rhanddeiliaid ledled Cymru i archwilio’r broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Yn ddiweddar mae hefyd wedi cwblhau gwerthusiad o Raglen Arweinyddiaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar ran Teach First; ac astudiaeth i sefydlu gwaelodlin o’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru. Ar hyn y bryd mae’n arwain gwerthusiad o’r Siarter Iaith, rhaglen sy’n cefnogi defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg ymysg plant. Mae hefyd yn gwerthuso Rhaglen Graddedigion Cymru Gyfan ar ran Academi Wales, rhaglen sydd yn datblygu arweinwyr y dyfodol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cyn ei amser yn Arad, bu’n gweithio i ymgynghoriaeth ymchwil Newidiem ac fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Brett yn siarad Cymraeg a Ffrangeg ac yn byw ym Mhontypridd.
Hefin Thomas

Hefin Thomas
Mae Hefin yn Gyfarwyddwr ac yn un o sefydlwyr Arad. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae Hefin wedi dylunio a rheoli ymchwil a gwerthusiadau ar gyfer cleientiaid gan gynnwys adrannau llywodraethol, awdurdodau lleol, sefydliadau preifat a thrydydd sector. Mae ei brif feysydd arbenigedd yn cynnwys addysg, sgiliau a hyfforddiant, yr iaith Gymraeg, proffilio marchnad lafur a dadansoddi economaidd.
Yn ddiweddar mae Hefin wedi rheoli ymchwil ansoddol dros dair blynedd i Lywodraeth Cymru yn astudio barn rhieni ar wasanaeth blynyddoedd cynnar, yn ogystal â chwblhau ymchwil ar ddulliau o brofi sgiliau llythrennedd a rhifedd ymgeiswyr Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ac asesiad o werth economaidd Urdd Gobaith Cymru.
Mae Hefin yn rhugl yn y Gymraeg. Graddiodd Hefin o Ysgol Economeg Llundain yn 2001 a dechreuodd ei yrfa fel ymchwilydd polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Martin Jones

Martin Jones
Mae Martin yn un o Gyfarwyddwyr Arad a sefydlodd y cwmni. Dechreuodd Martin ei yrfa yn gweithio i adran Addysg a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd ac ers hynny mae wedi gweithio ar brosiectau addysg, diwylliant ac ymchwil a datblygu ar draws yr UE. Mae ganddi brofiad eang o ddylunio offerynnau ymchwil a gwerthuso a gweithio i gleientiaid fel adrannau llywodraethol lleol a chenedlaethol, cynghorau sgiliau sector a sefydliadau diwylliannol.
Mae ei brofiad diweddar yn cynnwys rheoli ymchwil i mewn i werth a thraweffaith gweithgareddau buddsoddi Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ymchwilio traweffaith gwaith ieuenctid mewn ysgolion ar ran Llywodraeth Cymru a gwerthuso’r Gronfa Buddsoddi mewn Sgiliau a’r Strategaeth Sgiliau Ffilm ar ran Creative Skillset. Mae Martin yn siarad Ffrangeg a Sbaeneg da.
Sioned Lewis

Sioned Lewis
Mae Sioned yn Gyfarwyddwr ac yn gyd-sylfaenydd Ymchwil Arad sydd wedi arwain ystod o brosiectau ymchwil a gwerthuso dros y pymtheng mlynedd diwethaf. Mae hi’n rheolwr prosiect profiadol, yn fedrus mewn arwain prosiectau ymchwil o’r dechreuad hyd at ei wasgariad ar gyfer ystod o gleientiaid gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol a sefydliadau trydydd sector. Cynhwysir themâu ymchwil megis gofal plant ac addysg gynnar, cyflogaeth a sgiliau a pholisi iaith Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae Sioned yn arwain prosiectau Arad sy’n ymwneud â gofal plant ac addysg gynnar. Rheolodd y gwerthusiad o Weithrediad Cynnar y Cynnig Gofal Plant i Gymru, sef gwerthusiad dulliau cymysg gan gynnwys arolygon o rieni a darparwyr. Mae hi hefyd ar hyn o bryd yn rheoli’r gwerthusiad o hyfforddiant ‘Cynnydd ar gyfer Llwyddiant’ a ariennir gan ESF ar gyfer gweithwyr gofal plant. Mae astudiaethau cyflogadwyedd a sgiliau diweddar yn cynnwys yr adolygiad o Raglen Beilot Sgiliau Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a gwerthusiad o brosiect Oxfam sy’n ffocysu ar Adeiladu Bywoliaethau a Chryfhau Cymunedau yng Nghymru.
Cyn hynny, roedd Sioned yn ymchwilydd mewn ymgynghoriaeth annibynnol ac yn ymchwilydd yn Llywodraeth Cymru. Yn raddedig mewn daearyddiaeth, mae ganddi hefyd radd meistr mewn datblygiad rhanbarthol gyda dulliau ymchwil.
Stuart Harries

Stuart Harries
Mae Stuart yn gyfarwyddwr ac yn un o’r aelodau a sefydlodd Arad. Mae gan Stuart dros ddau ddegawd o brofiad ymchwil ac ymgynghoriaeth. Mae ganddo radd mewn economeg ac y mae ei brif ddiddordebau ymchwil mewn addysg, sgiliau a datblygu’r gweithlu. Mae gan Stuart hanes o lwyddiant wrth arwain gwerthusiadau ac astudiaethau ymchwil ar gyfer cleientiaid yn amrywio o fudiadau elusennol i lywodraeth lleol a chenedlaethol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae Stuart yn gyfathrebwr ardderchog yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn hwylusydd profiadol o gynadleddau, seminarau a grwpiau ffocws.
Yn ddiweddar, mae Stuart wedi bod yn arwain ar werthusiad o’r Cynnig Gofal Plant ac mae wedi gweithio ar werthusiadau o raglenni cyflogadwyedd megis y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd a Gwasanaeth Di-waith Cymru Iach ar Waith ar ran Llywodraeth Cymru. Mae wedi rheoli ymchwil a gwerthuso yn y sector addysg, megis gwerthusiad o STEM Cymru 2 ar ran Cynllun Addysg Beirianneg Cymru.