Kara Stedman

CWRDD Â’R TÎM

Kara Stedman

Ymunodd Kara ag Arad fel ymchwilydd yn 2021. Cyn ymuno ag Arad, roedd ganddi chwe blynedd o brofiad o gynnal ymchwil desg, arolygon, cyfweliadau a dadansoddiad meintiol ac ansoddol. Mae Kara wedi gweithio ar brosiectau ymchwil amrywiol ar gyfer y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys prosiectau ar gyfer Busnes Cymru, Achub y Plant, Cymwysterau Cymru a llawer o awdurdodau lleol ledled y DU.

Mae Kara wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil dulliau cymysg ar raddfa fawr gan gynnwys ymgynghoriadau ar wasanaethau iechyd meddwl cleifion mewnol ar gyfer comisiynwyr y GIG yn Nwyrain Sussex ac ymgynghoriad cynllun rhentu preifat Lerpwl. Rhan o rôl flaenorol Kara oedd arwain y tîm prosesu data a oedd yn cynnwys dylunio fframiau codau ac adnabod themâu mewn setiau mawr o ddata. Roedd Kara hefyd yn gweithio i Brifysgol Abertawe yn flaenorol lle bu’n gwneud gwaith ymchwil meintiol ac ansoddol gyda myfyrwyr ac academyddion i wella profiad myfyrwyr. Mae ganddi radd Meistr mewn Gwyddorau Gymdeithasol lle cymerodd fodiwlau mewn astudiaethau plentyndod a dulliau ymchwil gyda phlant a phobl ifanc.

Ar hyn o bryd mae Kara yn gweithio ar werthusiad o brosiect hyfforddiant Cynnydd ar gyfer Llwyddiant ESF ar gyfer Llywodraeth Cymru a Gwerthusiad o beilot Gwaith Chwarae yn ystod y Gwyliau 2021/22, gan gynnal a chefnogi cyfweliadau gydag awdurdodau lleol a darparwyr. Mae hi hefyd yn cefnogi Blynyddoedd Cynnar Cymru i gynnal arolwg o’r sector ar gyflogau a chyfraddau chadw.