Iechyd a lles

Gwerthusiad Allanol Prosiect Attic

(Care & Repair Cymru, 2018-20)

Fe wnaeth Arad werthuso’r Model Ysgolion Arloesi, sydd yn datblygu cwricwlwm newydd i Gymru (gan gynnwys cymhwysedd digidol a datblygu proffesiynol). Mae’r Model Ysgolion Arloesi yn ddull newydd sydd yn cynnwys cydweithio rhwng partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol ac ysgolion. Roedd y gwerthusiad yn darparu adborth amser real i Lywodraeth Cymru ar sut mae’r model yn cael ei ddarparu ac yn crynhoi unrhyw wersi i hysbysu cyfnodau dilynol o ddarpariaeth. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys gwaith maes dwys dros ddwy flynedd gyda dros gant o ysgolion arloesi a rhanddeiliaid allweddol.

https://gov.wales/statistics-and-research/formative-evaluation-pioneer-school-model/?skip=1&lang=cy


Gwerthusiad o’r Prosiect Survivors

(Creu Cymru, 2016-18)

Mae Survivors yn brosiect a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, dan arweiniad Creu Cymru mewn partneriaeth â Chickenshed. Mae’r prosiect yn gweithio gyda nifer o theatrau ledled Cymru ar y cyd ag ystod o sefydliadau dielw sy’n ceisio cefnogi lles y rhai y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Cynhaliodd Arad werthusiad hydredol o’r prosiect, yn cynnwys dadansoddiad o ddata monitro, cyfweliadau gyda buddiolwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol ac ymweliadau prosiect.


Cymorth gwerthuso i brosiectau GIG a ariannwyd o dan Buddsoddi i Arbed

(Llywodraeth Cymru, 2015-16)

Comisiynwyd Arad gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth i brosiectau a ariannwyd o dan raglen buddsoddi i arbed y GIG, gyda’r nod o ddatblygu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ymyriadau i wella iechyd a lleihau absenoldeb oherwydd salwch ar draws GIG Cymru. Nod gwaith Arad oedd cefnogi staff y prosiect i ddatblygu fframweithiau a dulliau ar gyfer gwerthuso eu gwaith er mwyn iddynt wella eu dealltwriaeth o gynnydd, deilliannau ac effaith.


Gwerthusiad o'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser

(Macmillan, 2013-15)

Roedd gwasanaethau gwybodaeth a chymorth Canser Macmillan yn wasanaethau allgymorth, a ddarparwyd yn bennaf o leoliadau Llyfrgell, wedi’u hanelu at gefnogi pobl yr effeithiwyd arnynt gan ganser. Darparwyd un o’r canolfannau gwasanaeth o lyfrgelloedd Torfaen. Gwerthusodd Arad y prosesau sydd ynghlwm wrth sefydlu’r gwasanaethau llyfrgell hyn yn ogystal â’r cyrhaeddiad a’r effaith a gawsant ar y rhai a ddefnyddiodd yr wybodaeth a’r gefnogaeth sydd ar gael. Adolygodd Arad hefyd i ba raddau yr oedd y gwasanaethau yn cefnogi nodau ac amcanion craidd y gwasanaethau llyfrgell.


Gwerthusiad o'r Rhaglen Cyngor Gwell, Bywydau Gwell

(Llywodraeth Cymru, 2015)

Gwerthusodd Arad yr effaith a gafwyd gan y rhaglen Cyngor Gwell, Bywydau Gwell, rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynwyd gan Gyngor ar Bopeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnig cyngor i ddinasyddion mewn lleoliadau iechyd amrywiol e.e. meddygfeydd teulu. Canolbwyntiodd y gwerthusiad ar yr effaith y mae’r cyngor wedi’i gael ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau a’r graddau y mae gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ystyried hyn yn fodd i wella iechyd y rhai a gefnogir. Cynhaliwyd cyfweliadau yng nghartrefi’r cyfranogwyr ac mewn lleoliadau cymunedol.


Gwerthusiad o’r Prosiect Ymwybyddiaeth Sgamiau

(Age Cymru, 2013-15)

Cyflwynodd y prosiect, a ariannwyd gan Comic Relief, weithdai i bobl hŷn â dementia, a’u gofalwyr a’u teuluoedd, i roi gwybodaeth ac adnoddau iddynt i’w helpu i ddiogelu eu hunain rhag sgamiau ariannol. Cyflwynwyd y gweithdai gan wirfoddolwyr a oedd mewn rhai achosion yn bobl oedrannus eu hunain. Casglodd Arad adborth gan y rhai a dderbyniodd wybodaeth a chyngor, a chyfweld gwirfoddolwyr a swyddogion prosiect a oedd yn cyflawni’r prosiect.