Plant, pobl Ifanc a theuluoedd

Gwerthusiad o Weithrediad Cynnar y Cynnig Gofal Plant i Gymru

(Llywodraeth Cymru, 2017-18)

Ar hyn o bryd, mae Arad yn gweithio mewn partneriaeth â NatCen Social Research i werthuso’r gweithrediad cynnar y cynnig 30 awr o ofal plant am ddim. Bydd y gwerthusiad yn cynhyrchu dysgu i fireinio’r ffordd y mae’r cynnig yn cael ei roi ar waith yn llawn a’i nod yw darparu mewnwelediad cynnar i’r cyflwyno, y defnydd o’r cynnig a’r ymatebion i’r newid polisi o ran defnyddio gofal plant a phatrymau cyflogaeth rhieni. Mae arolwg yn cael ei gynnal gyda rhieni, a bydd cyfweliadau gyda darparwyr gofal plant, rhieni a rhanddeiliaid allweddol hefyd yn cael eu cynnal.


Gwerthusiad o’r Grant Corff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol

(Llywodraeth Cymru, 2017)

Nod y gwerthusiad oedd asesu effeithiolrwydd y grant a datblygu dealltwriaeth glir o werth ac effaith y grant presennol ar gyflenwi darpariaeth gwaith ieuenctid gwirfoddol ar draws Cymru gyfan. Adolygodd tîm Arad ganllawiau i’r ymgeiswyr, ffurflenni cais ac adroddiadau gwerthuso ynghyd â dogfennau polisi ehangach. Cynhaliodd Arad gyfweliadau manwl gyda holl gynrychiolwyr y sefydliadau a ariannwyd o ran effaith cyllid ar eu strwythurau gweithredol, cynllunio a chyflawni gweithgareddau ac effaith ar eu grwpiau targed o fuddiolwyr.


Ymchwil ansoddol gyda theuluoedd Dechrau'n Deg

(Llywodraeth Cymru, 2015-18)

Mae Dechrau’n Deg yn darparu rhaglen o wasanaethau cymorth wedi’u targedu (gan gynnwys mwy o ymweliadau iechyd a chymorth rhianta) i blant a theuluoedd yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth pendant i fywydau plant yn yr ardaloedd lle mae’n cael ei gyflawni. Cynhaliodd Arad ymchwil hydredol, ansoddol dros dair blynedd i gasglu barn teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, gan gasglu tystiolaeth ar eu hymgysylltiad â’r gwasanaethau ac effaith y gwasanaethau ar les y teulu.


Datblygu Strategaeth Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

(Cyngor Caerdydd, 2016)

Darparodd Arad archwiliad a chynllun gweithredu i Gyngor Caerdydd ar ymgysylltu â phobl ifanc a datblygiad pobl ifanc o fewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Roedd y gwaith yn cynnwys archwiliad o ymgysylltu â phobl ifanc, gweithdy gydag adrannau a sefydliadau perthnasol y Cyngor i ddeall gweithgarwch a darparu cynllun gweithredu yn gwneud argymhellion ar ddatblygiad cynnig ieuenctid y Cyngor.


Gwerthusiad Ffurfiannol o'r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

(Llywodraeth Cymru, 2014-15)

Comisiynwyd Arad, mewn partneriaeth ag ICF, i gynnal gwerthusiad ffurfiannol o’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys ymchwil fanwl ar y cynnydd a wnaed o ran gweithredu’r fframwaith ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru. Cynhaliwyd cyfweliadau â rhanddeiliaid ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru yn ogystal â chyfweliadau ag arweinwyr polisi a rhanddeiliaid cenedlaethol fel Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith. Cynhaliwyd adolygiad o ddata eilaidd hefyd fel rhan o’r broses o ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer gwerthuso effaith y fframwaith yn y dyfodol.


Gwerthusiad Gyrru Ymlaen at Sgiliau

(Rhwydwaith Cymunedau’n Gyntaf Gwynedd, 2014-15)

Cynhaliodd Arad werthusiad o’r prosiect Gyrru Ymlaen at Sgiliau. Nod y prosiect tair blynedd a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr oedd cefnogi pobl ifanc NEET ac mewn perygl o fod yn NEET drwy roi cyfleoedd iddynt fanteisio ar gyrsiau byr achrededig yn ogystal â chymorth mentora parhaus. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys gwaith maes gyda phobl ifanc, staff cyflwyno, mentoriaid ac asiantaethau cyfeirio yng Ngwynedd yn ogystal ag asesiad gwerth am arian.


Gwerthusiad Llwyddo’n Lleol

(Cyngor Gwynedd, 2012-15)

Cwblhaodd Arad ymchwil i gyflawniad ac effaith y Rhaglen Athrawon Eithriadol, oedd â’r nod o wella ymarfer addysgu, gan adeiladu ar rinweddau presennol cyfranogwyr fel athrawon. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar y cymhellion dros gyfranogiad athrawon, cynllunio a chyflwyno rhaglenni, effaith (er enghraifft ar ansawdd addysgu ac ar ganlyniadau dysgu), manteision ehangach i’r ysgol o ran cyfranogiad a phwyntiau dysgu perthnasol. Roedd y fethodoleg yn cynnwys rhaglen o ymweliadau ag ysgolion a oedd yn cymryd rhan ac ymgynghoriadau dros y ffôn gydag athrawon a oedd yn cymryd rhan.


Gwerthusiad o'r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

(Llywodraeth Cymru, 2012-15)

Archwiliodd y gwerthusiad effeithiolrwydd ac effaith y prosesau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid i sicrhau bod nodau’r strategaeth yn cael eu cyflawni. Ystyriodd y gwerthusiad hefyd i ba raddau yr oedd y strategaeth wedi gwireddu’r canlyniadau fel y nodwyd yn y fframwaith gwerthuso. Yn ogystal â gwerthusiad cyffredinol o’r strategaeth, roedd yr ymchwil yn cynnwys adolygiad o adnoddau addysgol; gwerthusiad o’r prosiect Hyrwyddwyr Dwyieithrwydd; gwerthusiad o’r Cynllun Sabothol ar gyfer ymarferwyr; gwerthusiad o effaith y Mesur Dysgu a Sgiliau a gwerthusiad o’r ddarpariaeth Cymraeg ail iaith.
https://gov.wales/statistics-and-research/welsh-medium-education-strategy/?skip=1&lang=cy