NEWYDDION
Ymchwil i weithio yn rhyngwladol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru
Chwefror 22 2016
Cyhoeddodd Ymchwil Arad astudiaeth o weithio yn rhyngwladol yn y sector llenyddiaeth yng Nghymru. Comisiynwyd y gwaith gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae’r astudiaeth wedi mapio gweithgarwch rhyngwladol cyfredol, wedi archwilio partneriaethau presennol a gwaith ar y cyd rhwng sefydliadau yng Nghymru ac wedi darparu argymhellion i wneud y mwyaf o gyfleoedd gan gyfeirio at heriau i’r sector wrth ymgysylltu’n llawn yng nghyfleoedd rhyngwladol y dyfodol.
http://www.wai.org.uk/news/6883